Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Nid am goweth,—Duw'n dyst,―ferch,
Ond o serch a chariad
I ti'n unig, y rhois i
Fy mryd a'm ffansi arnad.
Er cyfrannu o Dduw im lai
O dda na rhai a'th geisiodd,
Er a'i gwado, mi a'i gwna'n dda
Mai fi yw'r mwya' a'th garodd.
Odid anfoes, llid na bâr
Rhwng dau a gâr yn ffyddlon;
Gwell ychydig drwy râd Duw,
Na'r byd a byw'n anfodlon.
—Richard Hughes.
IV.
CAN I GIWPYD.
Dyn wyf fi sy' brudd heb wên,
Ni byddai lawen ennyd;
Ond am fy ngholled ni wna i lai
Na bwrw'r bai ar Giwpyd.