Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/111

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Brydferth ddinas, rhaid im d'adael,
Rhaid im ganu'n iach i ti.

Canu'n iach i'r santaidd hiniog,
Lle'r ymdrý ei hysgafn droed;
Canu'n iach i'r fangre santaidd,
Lle gwelais f'annwyl gynta' rioed.

Pe erioed na'th ganfuaswn,
Ti frenhines deg fy mron,
Heddyw ni buaswn isel
Yn fy mhrofedigaeth hon.

Ni fynnais fennu ar dy galon,
Am dy serch ni cheisiais i;
Digon im oedd byw yn dawel
Lle'r ehedai d'anadl di.

Tithau sy'n f'alltudio ymaith,
Gair dy enau chwerw yw;
Mae gwallgofrwydd i'm meddyliau,
Ac mae 'nghalon glaf yn friw.

Llusgaf draw ar ffon pererin
Gorff lluddedig llwyd ei wedd,
Nes cael rhoi fy mhen i orffwys
Yn fy oer bellennig fedd.