Prawfddarllenwyd y dudalen hon
XVII
Breuddwydiwn weld y lloer yn brudd,
A phrudd oedd sêr y nef;
A mi fy hun oddiyma 'mhell
Yn fy nhirionaf dref.
Nesheais at ei chartref draw,
Cusenais drothwy'r drws
Lle 'n aml y gwibiodd ysgafn droed
Ac ymyl gwisg fy nhlws.
Yr oedd y nos yn oer a maith,
A'r garreg honno'n oer;
Ond gwelais wyneb mwyn drwy'r dellt
Yn gann yngoleu'r lloer.
XVIII
Fel y lloerwen oleu'n dianc
O dywyll len y cwmwl du
Y daw im weledigaeth oleu
O ganol dyddiau tywyll fu.
Ar fwrdd y llong i gyd eisteddwn,
Ar hyd y Rhein yn falch yr awn,
A hafaidd lesni'r glannau'n twynnu
Yng ngoleuni haul prynhawn.