Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Y goedwig dawel saif i wrando,
A'i dail yn glustiau bach bob un;
Yntau'r bryn a swrth ymestyn
Ei drom gysgodfraich drwy ei hun.
Ond pwy a alwodd? Ar fy nghalon
Seiniodd adlais meinlais mwyn;
Ai llais f'anwylyd oedd? ai ynteu,
Dim ond eos yn y llwyn?
XXXI
Crwydraf y freuddwydiol goedwig,
Crwydro'r goedwig gyda'r nos;
Wrth fy ystlys innau'n wastad
Mae dy ddelw welw dlos.
Onid dyna dy wisg gannaid?
Onid dyna d'wyneb mwyn?
Ai nid yw ond goleu'r wenlloer
Dyr drwy wyll y tywyll lwyn?
Ai fy nagrau dwys fy hunan
Glywaf yma'n ffrydio'n lli,
Ai tydi sy'n wir, f’anwylaf,
Yma'n wylo'n f'ymyl i?