Prawfddarllenwyd y dudalen hon
XXXVIII
MYNYDDGAN
I
Ar y mynydd saif y bwthyn
Lle preswylia'r cloddiwr hên;
Yno'r pinwydd gwyrdd a sua,
Yno'r lloer sy'n aur ei gwên.
Cadair freichiau sy 'n y bwthyn,
Eres yw ei cherfiad hi;
A eistedd arni, dedwydd ydyw,
A'r dedwydd hwnnw ydwyf fi.
Ar y droedfainc eistedd geneth,
Ar fy nglin ei gwenfraich dlos;
Llygaid fel dwy loywlas seren,
Gwefusau fel y porffor ros.
Y ddwy las seren edrych arnat
Fel sêr y nefoedd yn y nos,
A gesyd hithau fys fel lili
Mor henffel ar y porffor ros.
Na, ni wêl y fam mohonom,
Mae honno'n diwyd nyddu'i gwlân;