Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/133

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

A'r tad yn taro tannau'i delyn,
Ac yn canu'i hên hên gân.

Distaw y sisiala'r eneth,
Dal ei hanadl a wna hi,
A llawer o gyfrinion pwysig
Addefodd eisoes wrthyf fi.

"Byth er pan fu 'modryb farw,
"Braidd cawn fynd dros drothwy'r drws,
"Na gweld y saethu byth yn Goslar,-
"O, mae hwnnw'n lle bach tlws.

"Ac mae yma le mor unig
"Ar uchelion oer y bryn;
"Wedi'n claddu gydol gaeaf
"Yr ydym yn yr eira gwyn.

"Minnau, geneth ofnus ydwyf,
"Ac arswyd plentyn arnaf fydd
"Rhag ysbrydion drwg y mynydd,
"Sy'n brysur wedi cilio'r dydd."

Tewi'n sydyn wnaeth yr eneth,
Fel pe delai arni fraw
Rhag ei gair ei hun, a chuddiodd
Ei dau lygad â'i dwy law.