Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/134

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Uchel sua'r pîn oddi allan,
A rhua'r droell wrth nyddu'r gwlân;
A chlywir sain y delyn rhyngthynt,
A chlywir mwmlian yr hên gân:

"Paid ag ofni, f'annwyl blentyn,
"Ysbrydion drwg na'u gallu hwy;
"Ddydd a nos, fy annwyl blentyn,
"Engyl sydd i'th wylio mwy."


ii

Cura'r pîn â bysedd gwyrddion
Ar y ffenestr fach o hyd;
Teifl y lloer ei haur oleuni
Drwyddi dan glustfeinio'n fud.

Y tad a'r fam yn eu hystafell,
Huno maent yn esmwyth iawn;
Ninnau'n dau, parablu'n ddifyr
A pharhau yn effro wnawn.

"Dy fod," medd hi, "'n gweddïo'n fynych,
"Credu hyn sydd anodd im;
"Ni ddaeth y tro sydd ar dy wefus
"Yno o weddïo ddim.