Prawfddarllenwyd y dudalen hon
PAN DDIFLANNO GWRID
Pan ddiflanno gwrid yr hwyrddydd,
Dringa'r lloer a'r gloywser tlws;
A phan welwo'r sêr a'r lleuad,
E ddaw'r haul o'i euraid ddrws.
Yn rhosynnaidd wrid yr awyr,
Yn yr heulwen oleu glir,
Yn y lloer ac ym mhob seren,
Ni welaf ond dy wedd yn wir.
Eraill welaf yn mynd heibio,
Arnynt hwy ni syllaf fi;
Am danat ti o bell myfyriaf
Pan na bwyf yn dy ganfod di.
A phan agoshei ni allaf
Byth dy weled eneth wen;
Fe ddaw llonder, poen, a phryder
Dros fy llygaid megis llen.
Pa fodd y gallaf dy anghofio,
Pa fodd heb boen dy gofio di,
Pa mor agos bynnag byddych,
Pa mor bell oddiwrthyf fi?
—Ernst Schulze.