Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/154

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cyffelyb serch, Irene,
Sydd im, cyffelyb gwyn;
Ac O, na roddit tithau
Gyffelyb ateb mwyn.

VI


Na thyred at y beddrod
Lle'm rhodded dan y gŵys;
Mae'r fangre'n gysegredig
I'm cur a'm dolur dwys.

Ni fynnaf mo'th wylofain,
Na'th flodau teg eu gwawr;
Pa les i mi yw blodau,
Pa les yw dagrau'n awr?

Dylasit estyn gronyn
○ gymorth imi 'r pryd
Y gwelaist fi'n dihoeni,
Ymboeni yn y byd.

A diles ydyw d'alar
Am danaf mwy, fy mun;
Gad i luddedig enaid
Ei dawel isel hun.

—Vittorelli.