Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Fy hoedl a'm serch a'm calon wyt,
Cannwyll fy llygad i;
A chennyt feddiant ar bob rhan
I fyw a marw i ti.
—Herrick.
EIDDIGEDD Y SAINT
Yr eneth hoff a aeth a'm serch
Oedd gymaint uwch na neb rhyw ferch,
Ar saint y nef rhagorem ni,
Mewn glendid hi, mewn cariad fi.
A hwythau, am na fynnynt fod
Yn ail i rai sydd is y rhod,
A gymerth hon i'w plith eu hun,
A'm gadael innau'n druan ddyn.
—Duke of Buckingham.
Y CUSAN
Mae'r enaid, medd athronwyr byd,
Fel meudwy yn ei gell fach glyd,
Yn byw'n ymennydd dyn o hyd.
Nid wyf athronydd, eto gwn
Yn llygaid Gwen im ganfod hwn;
I'w gwefus llithrodd, a myfi
Gusenais yno 'i henaid hi.
—Anhysbys.