Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/168

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Moel fydd esgyll amser hên
Cyn y dêl o hyd
I ffyddloned carwr byth
Yn y byd i gyd.

Ond, ysywaeth, nid oes dim
O'r glod i'w rhoi i mi;
Gyda mi nid oedai serch
Oni bai am dani hi.

Oni bai am dani hi,
A'r wyneb hwnnw'i hun,
Ni charaswn lai, cyn hyn,
Na dwsin yn lle un.

—Syr John Suckling.


I'R GOG

O hoyw ymwelydd! clywais di,
Clywaf a llawenhâf;
Ai d'alw di 'n aderyn, Gog,
Ai'n llais crwydredig gaf?

Pan fwyf yn gorwedd ar y gwellt,
Daw'th ddeublyg lef i'm clyw;
Mae fel pe'n gwibio o fryn i fryn,
A phell ac agos yw.