Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Rhy dyner yw hi, rhy fwyn
Byth i'm gofidio;
Rhy bur yw ei chalon hi
Byth, byth i'm twyllo.
Petwn yn arglwydd gwlad
Neu'r teyrn ei hun,
Fy oes fyddai 'n dywyll heb
Fary fy mun.
Draw dros y bryniau pell
Crwydra gwyllt afon,
Draw dros y bryniau pell
Gorffwys fy nghalon.
Glanach na gem na pherl,
Tecach ei llun,
Yno mewn tlysni trig
Mary fy mun.
—John K. Casey.
ANNABEL LEE
Llawer blwyddyn faith yn ol,
Mewn teyrnas ger y lli,
Yr oedd yn byw enethig dlos,
A'i henw oedd Annabel Lee;
A meddwl ei bywyd, fy ngharu oedd,
Ac i minnau ei charu hi.