Nid oeddwn ond plentyn, a phlentyn oedd hon,
Yn y deyrnas ger y lli;
Ond carem â serch oedd yn fwy na serch,
Myfi a'm Annabel Lee,
 serch yr aeth sereiff adeiniog y nef
I'w chwennych oddiarnom ni.
A dyna paham, flynyddoedd yn ol,
Yn y deyrnas ger y lli,
Y daeth oerwynt o'r cwmwl du i wywo
Fy mhrydferth Annabel Lee;
Ac y daeth ei cheraint bonheddig i'w dwyn
Ymaith oddiarnaf fi,
A chau f'anwylyd yn y bedd,
Yn y deyrnas ger y lli.
Nid hanner mor ddedwydd oedd engyl y nef,
A hwy aeth i wrafun i ni—
Ië, dyna paham (a phawb a'i gwyr
Yn y deyrnas ger y lli)
Y daeth oerwynt o'r cwmwl du yn y nos
I ddeifio a gwywo fy Annabel Lee.
Ond ein serch oedd yn gryfach o lawer na serch
Y rhai oedd yn hŷn na ni,
A challach o lawer na ni;
Ac ni all nac engyl y nef uwchben,
Na'r ellyllon o dan y lli,
Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/172
Gwedd
Prawfddarllenwyd y dudalen hon