Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/173

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ni allant ysgar fy enaid byth
Oddiwrth enaid fy Annabel Lee.

Canys ni thywyn lloer a’i phelydr oer
Na freuddwydiaf am Annabel Lee;
Ac ni chyfyd ser na welaf fi dêr
Loyw lygaid fy Annabel Lee;
A'r nos faith yn un, gorweddaf fy hun
Wrth ystlys f'anwylyd, fy mywyd, fy mun,
Yn y beddrod yn ymyl y lli,
Yn y bedd sydd yn sŵn y lli.

—Edgar Allan Poe.


HOFF WLAD

Pan ddelo 'r pryd i brofi'n bryd,
Ai pur ai halog fo,
Ai'n ango'r â'n holl ddyled lân
I'n genedigol fro?
Dy ros yn awr sy wineu 'i gwawr,
A glas yw ton dy li,
Ond drostynt bydd y porffor rhudd,
Cyn y bradychaf di,
Hoff wlad,
Cyn y bradychaf di.

Wrth weld dy gry' fynyddoedd hy,
Pob llyn, pob nant mor hardd,