Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/174

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

Q

O fewn fy mron rhyw gymysg don
O boen a balchder dardd ;
Meddyliaf am dy hirfaith gam,
Dy ddewr ferthyron di,
A thaflaf draw y dagrau ddaw-
Nac wylwn drosot ti,
Hoff wlad,
Nac wylwn drosot ti.
Gwŷr eraill fedd ddyfalu'r wedd
I fynnu'r iawn i ti ;
 gwaith neu gais, à chledd neu lais,
Ei dilyn boed i mi.
Y fron fo'n ddur gan sêl a chur,
Nid ofn a'i concra hi ;
Ped angeu ddôi, merthyrdod drôi
Yn felys drosot ti,
Hoff wlad,
Yn felys drosot ti.
Sliabh Cuilinn.
GOBEITHION BORE OES
Mor deg meddyliau gwanwyn oes!
Fel dyri hên, yn lli
Gorlawn o gariad, bywyd, ffydd,
Y llifai f'yspryd i.
Q