Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/175

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

Q

Gobeithiais achub cam fy ngwlad,
Cael hynod eurglod hardd,
A chael gorffwysfa 'ngwenau merch,
Ac ennill enw bardd.
A'r gobaith eto, drwy bob gwae,
Dywynna'n obaith pell,
Nas gallodd tegwch haf fy oes
Dywyllu 'i oleu gwell.
A'i oleu'n gwylio uwch fy mhen
Mewn maes a chysegr sydd,
A'i lais fel hyfryd seraff lais
Yn seinio ‘Cymru Fydd.'
Thomas Davis.
EISTEDDFOD ABERFFRAW
1849
Yn oes Llywelyn safai plas
Ar draeth Aberffraw Môn;
Ac yn y neuadd wrth y wledd
Arllwysai'r tannau ’u tôn.
A phleser redai'n gynt ei rod,
A chodai'n uwch o hyd,
Lle'r oedd y dewr yn gwrando'r gân,
Lle gwenai'r glân eu pryd.
Q