Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto
Q
Dadfeiliodd y neuaddau llon,
Ni cheir mo'u holion mwy;
Ond da fod heddyw dant a thôn,
Y fan y sefynt hwy.
Ni egyr teyrn mo'i ddorau'n awr,
Na phlas ni rydd ei fri;
Er hyn mae balchder santaidd dwfn
I'n mad gynhulliad ni.
Ni raid galaru am deyrnas goll,
Nac am ogoniant gwyw;
Os meirw yw'n brenhinoedd hên,
Mae'n cenedl eto'n fyw !
W. T. Parkins.
COELCERTHI'R MYNYDD
Tân i'r bryniau! Fflachied nefoedd
Fel â gwawl goruchion coch!
Ni fydd gwyntoedd nos ond chwaon
I'r goelcerth flam, er chwythu'n groch.
Taniwn! nes llifeirio'r Mamau
○ freiniol lethr yr Wyddfa fry
I donnau llachar Menai obry,
Lle croesodd y Rhufeinig lu.
Coelcerthi'r mynydd a ddyrchafer,
Pentyrrwn hwynt i'r storm a'r gwynt,
Q