Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto
O'r Berseg
PENILLION
OMAR KHAYYÂM
SERYDDFARDD PERSIA
I
O'r gwindy gyda'r dydd y torrodd llef-
"Gymdeithion, wele'r wawr ar drothwy'r nef;
"Cyfodwch, llanwed pawb ei fesur gwin,
"Cyn llenwi mesur ei amseroedd ef."
II
Yr haul a deifl ei dennyn am y to;
Kai Khwsraw'r dydd a dywallt ei win o;
Yf win! canys cyhoedda rhingyll gwawr,
"Yfwch, mae'r dyddiau'n prysur fynd ar ffo!”
III
Y dydd a ddaeth i lesni hulio'r pren,
A'i gangen fel llaw Moesen a dry'n wen;
Mae'r byd drwy anadl Iesu'n ymfywhau,
A llygaid y cymylau'n llaith uwchben.