Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/179

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

Q

IV
Hyfryd yw'r dydd a chlaear ydyw'r hin,
Glawiodd y cwmwl ar y blodau crin ;
A chwyna'r eos wrth y gwelw ros,
"Mae'n rhaid i tithau wrth ychydig win."
V
Ar rudd y tiwlip gwena gwlith y nen,
A'r fioled yn yr ardd a blyg ei phen ;
Ond hoffach gennyf fi'r blaguryn rhos,
Y rhos a dynn ei wisg am dano'n denn.
VI
Dywed y rhos, "O'm haur wyf hael o hyd,
“Dan chwerthin, chwerthin fyth y dof i'r byd ;
"Torraf y llinyn oddiam enau 'nghod
"Nes bwrw 'nghyfoeth ar y llawr i gyd.”
VII
Hyfryd i'r rhos yw'r awel ar ei rudd,
Hyfryd yw d'wyneb hardd ymysg y gwŷdd ;
Am ddoe aeth heibio nid yw'n hyfryd sôn,—
Na soniwn gan fod heddyw'n hyfryd ddydd.
VIII
Gwell gennym gongl a thamaid na'r holl fyd;
Bwriasom chwant ei radd a'i rwysg i gyd;
Â'n calon oll prynasom dlodi, do,
Ac yn y tlodi cawsom gyfoeth drud.
Q