Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/180

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

Q

IX
Pob rhyw adduned wneuthum, torrais hi,
A chaeais rhagof ddorau parch a bri;
Na feia arnaf ymddwyn megis ynfyd,
Yr wyf yn frwysg ar win dy gariad di.
Dy arogl pêr i'm calon ddwys a ddaeth,
A hithau, gado 'mron a'th ddilyn wnaeth ;
Ni chofia am ei hen berchennog mwy,
Ond megis rhan o'th natur di yr aeth.
XI
Yma'n y diffaith fyd lle trigwn ni,
Crwydro a manwl chwilio y bûm i;
Ond cypres nis canfum mor seth a'th gorff,
Na lloer mor oleu a'th wynepryd di.
XII
Ychydig wridog win a llyfr o gån,
A thorth wrth raid, a thithau, eneth lân,
Yn eistedd yn yr anial gyda mi-
Gwell yw na holl frenhiniaeth y Swltân.
XIII
Cyfod, dwg win: ple'r ymddiddanwn ni?
Dy eiriau heno yw fy lluniaeth i;
Dwg win rhosynnaidd fel dy ruddiau teg,
Cythryblus ydwyf fel dy fanwallt di.
Q