XIV
Mae'r rhos â chysgod cwmwl ar ei rudd,
Ac awydd cyfedd ar fy nghalon sydd ;
Na huna; pa raid iti huno weithion?
Dwg win, f'anwylyd; mae hi eto 'n ddydd.
XV
Gan nad oes fechni am yfory i ti,
Bydd lawen dithau heno gyda mi;
Yf win yngoleu'r lloer, fy Lloer, daw'r lloer
Eto i dywynnu heb ein canfod ni.
XVI
Cyfod mae'r wawr mor welw a'r eira mân,
A syll am liw yng ngwedd y gwin coch glân;
Cymer ddau foncyff aloe arogl bêr,
Gwna un yn delyn, a gwna'r llall yn dân.
XVII
Dwg feddyginiaeth calon at fy mant,
○ arogl mwsg a gwrid rhosynnau gant ;
Os mynni gyffur rhag y trymfryd trist,
Dwg ruddem win a thelyn sidan dant.
XVIII
Os gwin a rwygodd gochl fy mharch yn ddwy,
Er hyn y gwin nis dïofrydaf mwy ;
Rhyfeddu'r ydwyf at y gwerthwyr gwin,
Beth well a brynant nag a werthant hwy.
Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/181
Gwedd
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto
