XIX
Fy min ar fin y ffrol a rois i,
I ofyn rhin yr einioes iddi hi;
Ac yna, fin wrth fin, sibrydodd hon,
"Yf win, cans yma ni ddychweli di."
XX
Yf win; cei huno'n hir yn erw'r plwy',
Heb ffrind na phriod i'th ddiddanu'n hwy;
Nac adrodd y gyfrinach hon wrth neb:
"Y rhos a wywodd ni flodeua mwy.”
XXI
Maith, maith, pan na bôm ni, y pery'r byd,
Heb air o sôn am danom ynddo i gyd;
Nid oeddem gynt, ac yntau nid oedd waeth ;
Ni byddwn, ond yr un fydd ef o hyd.
XXII
Cyn dyfod Angau ar ei ruthrgyrch dwys,
Pår ddwyn it win o wrid y rhosyn glwys;
Nid aur wyt ti, O ynfyd, fel y'th gladdant
I gloddio am danat eilwaith dan y gŵys.
XXIII
Soniant am Nef a Ffynnon Kawsar draw,
Lle mae gwin pur a mêl i bawb a ddaw;
Llanw fy nghwpan gwin a dyro im,—
Gwell gennyf fi na choel yw tâl ar law.
Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/182
Gwedd
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto
