XXIV
Mwyn, meddant, yw rhianedd Wlad Well ;
Mwyn, meddaf innau, ydyw'r gwin o'r gell;
Cymer dy dål, heb ddisgwyl dim ar goel,—
Fy mrawd, mae twrdd tabyrddau'n fwyn-o bell.
XXV
Dirgelion Tragwyddoldeb nis gwn i,
A darllain gair o'u gwers nis gelli di ;
Soniant am danom ni tu hwnt i'r llen,
Ond, pan ddisgynno'r llen, ple byddwn ni ?
XXVI
Nid oes i neb dramwyfa hwnt i'r llen,
A pheth sydd yno nis gŵyr neb is nen ;
Nid oes in noddfa ond ynghrombil daear-
Yf win; ar y fath siarad nid oes ben.
XXVII
O, na bai le o orffwys inni'n wir,
I ddyfod iddo wedi'n lludded hir;
Ac na bai obaith ym mhen mil can' mlynedd
Y tarddem eilwaith fel yr egin ir !
XXVIII
O, fy anwylyd dirion torrodd gwawr ;
Cân im dy delyn a dwg win yn awr;
Trwy ddyfod Mai a myned Rhagfyr taflwyd
Canmil Kai Khwsraw a Jamshîd i lawr.
Q
Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/183
Gwedd
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto
