Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/184

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

XXIX
Rho'r cwpan yn fy llaw, tanbaid yw 'mron;
Llithro fel arian byw mae'n heinioes hon;
Ac nid yw ffafrau ffawd ond breuddwyd gwag,
Fe ffŷ'r ieuenctid fel llifeiriant tonn.
XXX
Ni phery'n hoes ond bore a phrynhawn,
A phoen a gofid ynddi i gyd a gawn;
Yna, heb ddatrys o'i dirgelion un,
 mil o waeau dan y fron yr awn.
XXXI
Pan oedd im hoywder yn y bywyd hwn,
Gwyddwn gyfrinion y cyfanfyd crwn;
Ond heddyw, eglur y canfyddaf fi,
Fy mywyd aeth ar gil, a dim nis gwn.
XXXII
Yn ifanc ar y doethion y gwrandawn,
A'u holl ddoethineb a wybûm yn llawn;
A dyma ben y cwbl a ddysgais i:
"Fel dŵr y deuthom, ac fel gwynt yr awn.
XXXIII
Dynion trwy ddysg a thrwy athrylith sy'n
Goleuo megis cannwyll i'w cyd-ddyn,
Ni wyddant gam o'r ffordd trwy'r ddunos hon-
Traethant eu chwedl, a hunant eu hir hun.
Q