Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/185

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

XXXIV
Y gwŷr, O Sakî, a'n rhagflaenodd gynt,
Hunant yn llwch hunandyb wedi eu hynt ;
Yf win, a gwrando gennyf innau'r gwir—
A adroddasant oll, nid yw
ond gwynt.
XXXV
Na dderbyn dithau mo'u credoau crin,
Ond dyro damaid i'r anghenog blin ;
Absen na wna, ac na niweidia neb,
Mi wrantaf iti Nefoedd.-Dwg im win !
XXXVI
Gŵr a gwawl cariad yn ei galon ef,
Ai Synagog ai Masjid fyddo’i dref,
Sgrifennwyd enw hwnnw'n Llyfr y Cariad,
Ac ni phetrusa am Uffern nac am Nef.
XXXVII
Teml eilun fel y Ka'bah, cysegr yw,
A sŵn y Gloch sy sŵn addoliad byw ;
Ydyw, mae'r Eglwys a'r Zwnnår a'r Groes
Oll yn gyfryngau i addoli Duw.
XXXVIII
Medd eilun i'w addolwr, "Pam, O ddyn,
"Y plygi im? O herwydd yn fy llun
"Fe roes yr Hwn a weli ynof ran
"O'i degwch a'i hawddgarwch Ef ei Hun."
Q