XXXIX
Dy geisio, Iôr, mae dyn, drwy'i wŷn a'i wall;
Poed lwm, poed lawn, dy gaffael Di nis gall;
Mae d'air ynghlustiau pawb a phawb yn fyddar,
Yngolwg pawb yr wyt a phawb yn ddall.
XL
Eithr os dy wyneb oddiwrth bawb a geli,
I'r amlwg eilwaith yn dy waith dychweli:
Tydi sy'n dal y drych i Ti dy Hun-
Tydi dy Hun a welir ac a weli.
XLI
Fel llif mewn afon, ac fel gwynt ar draeth,
Dydd arall o derm f'einioes treiglo wnaeth;
Am ddau o ddyddiau ni ofidiaf fi,
Am ddydd i ddyfod, ac am ddydd a aeth.
XLII
Bydd lawen yn dy fywyd, na fydd brudd
A meithrin farn yn lle'r ffolineb sydd ;
A chan nad ydyw'r byd i gyd ond diddim,
Cyfrif nad wyt ond diddim, a bydd rydd !
XLIII
Fe benderfynwyd ddoe pa wobr a gei,
A doe nis cyfnewidi ac nis dilei;
Bydd lawen, canys, heb dy gennad di,
Fe bennwyd ddoe pa beth yfory a wnei.
Q
Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/186
Gwedd
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto
