XLIV
Y Pin yn y dechreuad fu'n coffàu
Y drwg a'r da, heb gloffi na llesghau;
Cyn dichlais dydd y cread y bu'r Arfaeth,
Ac ofer iti wingo na thristàu.
XLV
A chan mai gwir y gair, pa les yw dwyn,
○ herwydd dy drabluddiau, och a chŵyn?
Dygymydd di â'th dynged—ni thry'r Pin
I newid un llythyren er dy fwyn.
XLVI
Ac am y drwg a'r da sy'n natur dyn,
Y gwae a'r gwynfyd sydd ar ran pob un,
Na chyfrif hwynt i'r Rhod-mae honno'n fil
Mwy di-ymadferth na thydi dy hun.
XLVII
Cyn dal meirch gwyllt yr haul yn nhrec eu Rhi,
Cyn gosod deddf Parwîn a Mwshtarî,
Hon oedd y rhan a dyngodd Tynged im;
Pa fodd y pechais? Dyma 'nghyfran i.
XLVIII
○ begwn Sadwrn i'r dyfnderoedd cudd,
Datrys a wneuthum bob dyryswch sydd;
Llemais drwy rwymau celwydd, do, a thwyll-
Pob clwm ond clwm Tynghedfen aeth yn rhydd.
Q
Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/187
Gwedd
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto
