Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/188

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

XLIX
Trwy len Tynghedfen nid oes ŵr a êl,
Na golwg o'i dirgelwch neb nis gwêl;
Myfyriais, ddydd a nos, am ddeuddeng mlynedd
A thrigain, ac mae'r cyfan imi'n gêl.
L
I'r cyngor cudd nid oes a ddyry lam;
Ni chemir dros y terfyn hanner cam;
Oddiwrth y disgybl at yr athro trof,
A dirym megis minnau pob mab mam.
LI
Tynged a'i gordd a'th yrr fel pêl ar ffo
I ddeau ac i aswy yn dy dro:
Y Gŵr a'th fwriodd i'r blin heldrin hwn,
Efô a ŵyr, Efè a ŵyr, Efô.
LII
Yn wir, rhyw ddernyn gwyddbwyll ydyw dyn,
Tynged yn chware â hwnnw 'i chware 'i hun;
Ein symud ar glawr Bywyd, ôl a blaen,
A'n dodi 'mlwch yr Angau, un ac un.
LIII
Fel llunio llestr drwy ryw gywreiniaf drefn,
A rhoi can' cusan ar ei arlais lefn,
Crochenydd Byd yn gweithio'r llestr yn gain,
A'i fwrw 'n deilchion ar y llawr drachefn.
Q