Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/189

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

LIV
Fo'i Hunan fu'n ei wneuthur ; pam y gyr
Y llestr i ddinistr wedi oed mor fyr ?
pen telediw a'r wen luniaidd law,
Trwy ba ryw serch y'u gwnaeth, a llid y’u tyr ?
LV
Y Meistr ei Hun a fu'n cymysgu'n clai,
A pham y myn ddifetha'r cyfryw rai?
Od ydyw'r llestr yn hardd, paham y'i torrir?
Ac onid ydyw'n hardd, ar bwy mae'r bai?
LVI
Fe wyddai'r Gŵr, pan luniai 'nghlai â'i law,
Pa beth a wnawn, wrth fy ngwneuthuriad draw;
Nid oes un weithred im nas parodd Ef,
A pham y myn fy llosgi Ddydd y Praw?
LVII
Gwyddost ein gwendid ni a'n helbul flin :
A bair dy law a wêheirdd gair dy fin—
Dy law yn peri in ddal y llestr yn gam,
A'th air yn gwâhardd inni golli'r gwin.
LVIII
Y dydd y cyffry'r Nefoedd ac y cryn,
Yr awr y cyll y sêr eu goleu gwyn,
Gafael ynghwrr dy wisg a wnaf, a gofyn,
"Am ba ryw fai y lleddi'r truain hyn?'
Q