LIX
Caeaist fy llwybr å maglau fwy na rhi,
Ac meddi, "Os tramgwyddi, daliaf di”;
Mae'r byd bob gronyn wrth dy archiad oll,
Eto dywedi mai anufudd fi.
LX
Ple mae dy ddawn, od wyf anufudd was?
Ple mae d'oleuni i'm tywyllwch cas?
Os Nef ni roi ond am dy wasanaethu,
Tål ydyw hynny-ple mae dy rad ras ?
LXI
○ ddeuddeg ffydd a thrigain ein byd ni,
Dy gariad, Iôn, yw f'unig grefydd i ;
Anghred a chred, ufudd-dod, bai, beth ŷnt ?
Gwagedd. Ac nid oes sylwedd ond Tydi.
LXII
Ti'm creaist draw yn nhragwyddoldeb dir,
A dysgaist wersi cariad imi'n glir;
Llychyn o lwch y galon hon a wnaethost
Yn allwedd i drysordy'r sylwedd gwir.
LXIII
173
Ac ar a ddigwydd im un drem a rôf,
A'i hanes mewn rhyw ddeuair byr a glôf:
"Trwy gariad Duw i lwch y llawr yr af,
"Trwy gariad Duw o'r llwch drachefn y dôf."
Q
Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/190
Gwedd
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto
