LXIV
Troseddau'r byd pes troseddaswn i,
Hyderwn fyth ar dy drugaredd Di;
Dywedaist-" Yn nydd angen byddaf borth,”
Ac nid oes angenocach neb na mi.
LXV
Khayyam, paham yr wyli nad wyt dda?
Gofidio am y drwg, pa les a wna ?
Nid oes drugaredd i'r neb na wnaeth ddrwg:
Dros ddrwg y mae trugaredd. Na thrista.
LXVI
Trwy d'allu'r ydwyf fel yr wyf, fy Rhi;
O'th rad gan' mlynedd maith y'm cedwaist i ;
Can' mlynedd maith y gwneuthum innau braw
Ai mwy fy nghamwedd ai'th drugaredd di.
LXVII
Brwydro â'm chwantau'r ydwyf drwy fy nhaith,
Bu f'anwireddau imi'n alar maith;
Gwn y maddeui'n rhad, ond erys im
Gywilydd wyneb-gwelaist fy holl waith.
LXVIII
Chwiliais, tu hwnt i'r wybren bellaf un,
Am Bin a Llech, Nef, Uffern, cyn creu dyn :
F'Athro a'm dysgodd i—“Mae'r Pin a'r Llech
"A Nef ac Uffern ynot ti dy hun.”
Q
Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/191
Gwedd
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto
