LXIX
Mewn synagog ac ysgol, llan a thref,
Arswydant Uffern a deisyfant Nef;
Ond nid yw'r neb a ŵyr gyfrinach Duw
Yn hau'r fath efrau yn ei galon ef.
LXX
Gwell yn y dafarn dy gyfrinach Di
Na gweddi yn y cysegr hebddi hi;
Ti, cyntaf wyt ac olaf o bawb oll,
Os mynni llosg, os mynni cadw fi.
LXXI
Blinderau'r byd i'm henaid esmwythâ;
Cudd rhag y byd y drygau a'm gwarthâ;
Heddyw dod im dy dangnef, ac yfory
Megis y gweddai i'th drugaredd gwnâ.
LXXII
○ ddyn, sy ddelw o'r cread mawr i gyd,
Na ad i goll ac ennill ddwyn dy fryd:
Yf win o gwpan y Tragwyddol Fenestr,
Ac ymryddhå o ofal y ddau fyd.
LXXIII
Yr entrych fry, gwregys i'm corff yw et,
A ffrwd o'm dagrau ydyw Jîhŵn gref%;
Gwreichionen o'm trallodion ydyw Uffern,
Ac ennyd o'm hesmwythder ydyw'r Nef.
Q
Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/192
Gwedd
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto
