Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/193

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

LXXIV
Fy nghyfaill am yfory na thristawn,
Ond heddyw yn ein hoen ymlawenhawn ;
Yfory o'r hen westy, gyda llu
Seithmil blynyddoedd, ninnau ymadawn.
LXXV
Hen westy'r byd lle'r ym dros bryd yn byw,
Rhyw frithle o ddydd a nos yn gymysg yw,
Rhyw wledd lle'r uchel eistedd llawer teyrn,
A bedd lle'r isel orwedd llawer llyw.
LXXVI
Y gaer a daflai i'r nef ei chadarn dw,
Lle crymai teyrnedd beilch mewn ufudd lw,
Gwelais ysguthan ar fagwyrydd hon
Yn cwyno 'i dolef drist, "Cw, cw, cw, cw?”
LXXVII
Neuadd Bahrâm lle ffrydiai'r gwin yn lli,
Esgorfa'r ewig a ffau'r llew yw hi;
A thi, Bahrâm, fu'n dal y gwyddfarch gynt,
Gwêl fel y daliodd gwyddfa'r bedd dydi.
LXXVIII


Y glaswellt ir a dyf ar fin y don,
Fe dyf fel pån ar wefus angel, bron
Rhown droed yn dirion arno, gall y tardd
○ lwch un hardd o dan y dorlan hon.
Q