LXXIX
Bu dydd, bu nos, cyn dy fod di na mi,
A'r nef a drôi yn ei chyfnodau hi ;
O, sang yn ysgafn ar y llawr rhag ofn
Mai cannwyll llygad bun a fethri di.
LXXX
Lle tyf y rhos a'r tiwlip coch ei wawr,
Fe gollodd dewraf deyrn ei waed ryw awr ;
A'r fan y plyg y fioled wyl ei phen,
Fe roddes geneth wen ei phen i lawr.
LXXXI
177
Mae'r Rhod yn cynllwyn heddyw'n hangau ni,
A'i bryd ar ddwyn ein bywyd a roes hi ;
Eisteddwn ar y glaswellt, ni bydd fawr
Na thyf y glaswellt o'th lwch di a mi.
LXXXII
Bu'r godard hwn fel minnau'n serchog ddyn,
Yn gaeth yn rhwymau gwallt-fodrwyau'r fun;
A'r ddolen hon a weli wrth ei wddf,
Bu honno'n fraich am wddf y deg ei llun.
LXXXIII
Crochenydd ddoe a welais ar fy hynt
Yn dulio'i glai fel hwrdd rhyw agwrdd wynt;
A'r clai a lefodd yn ei gyfrin iaith:
"Yn ara' deg-bûm innau 'n rhywun, gynt."
Q
Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/194
Gwedd
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto
