LXXXIV
Pan fethrir finnau gan Dynghedfen gref,
Heb gennyf obaith bywyd is y nef,
O'm clai na wneler namyn cwpan gwin,
Ac odid na ddeffrôf pan lanwer ef.
LXXXV
Pa hyd y'n llethir gan flinderau'r dydd ?
Pa waeth ai awr ai blwyddyn inni sydd ?
Llanw di ʼn llestri cyn ein llunio ninnau
Yn llestri 'ngweithdy'r crochenyddion fydd.
LXXXVI
Ai griddfan am fy rhan yn drist fy mron,
Ai treulio 'myd a wnaf â chalon lon?
Llanw fy nghwpan gwin! myfi ni wn
A dynnaf anadl wedi'r anadl hon.
LXXXVII
Yn nyfnder Rhod y Nefoedd, draw ynghudd,
Cwpan y cyst i bawb ei yfed sydd ;
Tithau, pan ddêl dy dro, na chwyna ddim,
Ond yf yn llawen, canys daeth y dydd.
LXXXVIII
Nid dyn i ofni darfod wyf―ni'm dawr ;
Gwell hynny'n rhan na'm cyfran ar y llawr ;
Fy mywyd a roes Duw yn echwyn im,—
Mi dalaf iddo'i echwyn yn ei awr.
Q
Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/195
Gwedd
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto
