LXXXIX
Ofn angau nid yw namyn d'amwyll di ;
○ farw y tardd anfarwol oes i ni ;
Er pan fu f'enaid fyw yn anadl Iesu,
I grafanc Bythol Dranc ni'm dygir i.
XC
Gwybydd mai gado'r bywyd hwn a wnei,
A threiddio llen cyfrinion Duw a gei ;
Bydd lon―ni wyddost o ba le y deuthost:
Yf win―ni wyddost i ba le yr ei.
XCI
Ond Dydd y Farn, medd rhywun, a neshâ,
A'r Cyfaill Goreu fydd yn chwyrn. O, na!
Nid oes ond da o'r Perffaith Dda a ddêl-
Tawela, canys bydd pob peth yn dda.
XCII
Enaid, os diosg pridd y corff fydd raid,
I'r wybr yn ysbryd noeth y bwri naid ;
Y Nefoedd yw dy gartref, a sarhaed
Oedd iti gyfaneddu 'r llety llaid.
XCIII
Hedais i'r byd fel edn o'r anwel dir ;
Mae arnaf hiraeth am ei awyr glir ;
Yma nid oes gyfrannog o'm cyfrinach-
Trwy'r drws y deuthum af yn 81 cyn hir.
Q
Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/196
Gwedd
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto
