XCIV
Fy hen gymdeithion i nid ydynt mwy ;
Angau o un i un a'u cwympodd hwy ;
Yfed gwin einioes wnaethant gyda mi,
A huno 'nghynt na mi o awr neu ddwy.
XCV
Myned fydd raid i minnau ddydd a ddaw ;
Angau a rwyga'r fron â'i greulon law;
Ac ni ddychwelodd neb i'r byd yn ôl
I adrodd hynt y pererinion draw.
XCVI
Dros fryn a dôl y teithiais gynt, a thrwy
Holl gyrrau'r ddaear a'u cyfannedd hwy;
Ond mi ni chlywais ddyfod neb yn ôl—
Y ffordd yr aethant ni ddychwelant mwy.
XCVII
Gymdeithion, rhowch im loywwin ar fy min,
A gwefr fy ngwedd fydd ruddem fel y gwin;
Eneiniwch fi â gwin pan fyddwyf farw,
Ac yna o estyll gwinwydd gwnewch f’ysgrin.
XCVIII
Gwae fi fod llyfr fy mebyd wedi'i gau,
A chilio gwanwyn pêr fy mwynder mau ;
Aderyn hoyw ifenctid, ni chanfûm
Mohono'n dyfod nac yn ymbellhau.
Q
Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/197
Gwedd
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto
