Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/198

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

XCIX
Fy nghalon, beth pe câut y byd yn rhodd,
A'r byd o gwrr.bwy gilydd wrth dy fodd,
A thithau i fynd i ffwrdd fel eira'r anial
A safodd am ryw dridiau ac a ffôdd ?
C
Nid budd i'r Rhod fy nyfod dani hi,
A'm myned ymaith ni chwanega'i bri;
Ni chlywais reswm chwaith gan neb erioed
Am fy nyfodiad na'm mynediad i.
CI
Yma ni ddeuthwn pei fy newis gawn ;
Pe trefnwn fy mynediad, i ble'r awn?
Onid mil gwell fuasai'n hyn o fyd
Na ddeuthwn, ac nad elwn, ac na bawn?
CII
○ na bai i Dduw newid Nef a Llawr,
Ac na chawn innau weled hynny'n awr,
A gweled croesi f'enw o'i Lyfr yn llwyr,
Neu ynteu 'ngwared o'm cyfyngder mawr.
CIII
Pe gallwn lywio'r Nefoedd fel Tydi,
Y byd i'w seiliau a faluriwn i;
Ac yna llunio newydd fyd a wnawn,
Lle caffai'r galon ei dymuniad hi.
Q