Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto
CIV
Gymdeithion, pan gyfarffoch eto 'nghyd
I gyd-lawenu 'n hoenus iawn eich bryd,
A phan dywallto'r menestr y gwin pêr,
Cofiwch yn eich bendithion un fydd fud.
CV
A! fy nghymdeithion, yn y wledd a fo,
Cedwch eich hen gydymaith yn eich co';
A'r gloyw win pan yfoch hebof fi,
Trowch wydr a'i ben i lawr pan ddêl fy nhro.