Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/200

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

NODIADAU AR OMAR KHAYYÂM A'I BENILLION

SAIN YR ENWAU PERSIAIDD

Yo nhrawsysgrifiad yr enwau dilynais y dull sy'n awr yn gyffredin, ond yn unig fy mod yn rhoi w yn lle u i ddynodi sain yr w Gymraeg. Gadewis heb eu cywiro rai ffurfiau sydd wedi mynd yn adnabyddus mewn trawsysgrifiad gwahanol, megys Korán, Mahometan, ac enw Omar ei hun, a ysgrifenasid •Wmar yn ol y dull manylaf.

Seinier kh fel yr ch Gymraeg, a ch fel y ch Saesneg yn church. Selnier gh fel yr ch Gymraeg ond yn feddal (fél y mae dd yn th feddal). Seinier y. j. sk. f. a, fel y seïnir y llythrennau hyn yn Saesneg. Saif 'am fath o anadliad gyddfol; nid oes i Gymro ond ei basio heibio.

OMAR KHAYYÂM Enw Omar Khayyâm yn llawn oedd Ghiyâth wd-Din Abw'l- Fath Omar ibn Ibrahim al-Khayyâmî. Ef oedd prif serydd Persia a'r byd yn niwedd yr unfed ganrif ar ddeg; dengys ei lyfr ar Algebra wybodaeth feistrolgar o egwyddorion rhif a mesur; yr oedd yn hyddysg mewn athroniaeth, meddyginiaeth a gwyddoniaeth naturiol, ac yn un o athrawon Coleg Nishapŵr. Ystyr Khayyâm ydyw gwneuthurwr pebyll,' a synia rhai mai dyna oedd Ibrahim, tad Omar; ond fel y dywed y Dr. E. D. Ross (Batson and Ross, Rubd'sydi td. 72) gellir casglu oddiwrth y ffurf Arabeg al-Khayyâmî mai enw teuluol oedd Khayyâm, canys nid al-Khayyâmî ond al-Khayyâm fuasai'r gair am 'y gwneuthurwr pebyll.'

Ychydig iawn o hanes Omar sydd ar gael. Er bod amryw gyfeiriadau ato mewn llyfrau diweddarach, nid oes, hyď y gwyddys, ond un llyfr o waith cyfoeswr iddo yn crybwyll am dano-hwnnw yw y Chahdr Maqdla (y Pedwar Ymddiddan), gan Nizami-i-'Arŵdi, un o'i gydnabod. Dywed Nizami iddo gyfarfod ag Omar a Mwzaffar-i-Isfizâri mewn ty yn Dinas