Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/201

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

Balkh yn A.H. 506 (sef A.D. 1112-1113), ac ì Omar ddywedyd yn y cwmpeini, "Bydd fy medd i mewn man y bwrw'r coed eu blodau amaf ddwywaith yn y flwyddyn." Pan aeth Nizâmî i Nîshâpŵr yn A.H. 550 (A.D. 113S-6) yr oedd Omar, medd ef, wedi ei gladdu ers rhai blynyddoedd, ac aeth yntau i weled ei fedd. Fe gymerth arweinydd i ddangos y bedd iddo; ac "yntau a'm dug," medd ef, "i Fynwent Hîra. Mi drois ar y chwith, ac yr oedd y bedd wrth wal gardd, a choed gerllyg a choed eirín gwlanog yn estyn eu brígau drosti, a dail blodau wedi disgyn ar ei fedd hyd oni chuddid ei lwch gan y blodau. Yna y cofiais y gair a glywswn ganddo yn ninas Balkh, ac y torrais i wylo, canys ar wyneb y ddaear, ac yn holl barthau'r byd cyfaneddol, ni welais yn unman neb tebyg iddo ef."

Y mae Nizâmî yn adrodd hanesyn arall am dano yn profFwydo'r tywydd i'r brenin yn A.H. 508 (A.D. 1114-5). Dyma felly dystiolaeth cyfaill iddo ei fod yn fyw yn 1114, ac wedi marw ers "rhai blynyddoedd " yn 1135. Nid oes, gan hynny, le i ameu tystiolaeth y rhan fwyaf o'r awdurdodau diweddarach, mai yn 1123 y bu Omar farw.

Un amseriad sicr arall yn ei fywyd sydd gennym. Yn y flwyddyn 1074 apwyntiodd y Swltân Malilcshâh ddirprwyaeth o'r príf seryddion i "chwilio yr uchelion," a mesur hyd y flwyddyn. O'r gwŷr hyn, nid enwir ond tri—Omar yn gyntaf, ac un or ddau arall oedd Mwzaffar-i-Isfizârî, y gŵr oedd gydag Omar yn ninas Balkh yn 1112, Gwnaethpwyd y cyfrifiad, a dygpwyd ef i rym yn 1079; a diau mai i Òmar yn bennaf y perthyn y glod am dano. Rhyfedd fel y mae golygwyr argraffiadau Saesneg o'i bennillion yn adrodd, y naill ar ol y llall, ddywediad Gibbon fod y cyfrif hwn "bron mor gywir" a'n cyfrif ni. Y gwir yw ei fod yn gywirach er ei fod wedi ei wneuthur bedwar can' mlynedd ynghynt, Fe welir wrth hyn pa mor oleuedig oedd Persia yn yr unfed ganrif ar ddeg, pan oedd caddug yr oesoedd tywyll yn

T Yn ein cyfrif ni, a ddygpwyd i rym gyntaf gan y pab Gregorî XIII, yn 1582, tynnir tair blwyddyn naid o bedwar can' mlynedd, h.y. 97 sydd o flynyddoedd naid mewn 400 mlynedd ; hyd ein blwyddyn ni felly yw S^S^Ŵ o ddyddiau, neu 365*242?. Rhoes Ómar 8 o flynyddoedd naid mewn 33 o flynyddoedd ; hyd ei flwyddyn ef felly yw 365^, neu 365*242424 o ddyddiau. Hyd y flwyddyn mewn gwinonedd yw 365*242216. Gweíir felly pa gyfrif yw'r cywiraf.