stori'r tri chyfaill; ond ymdengys un peth yn lled sicr, sef i Omar gyrraedd oedran mawr. Canys odid na chyrchai at ganol oed pan gyfrifid ef, yn 1074, yn brif serydd Persia, a bu fyw agos i hanner can' mlynedd wedi hynny.
Y mae'r Dr. E. D. Ross, yn ei ragarweiniad i argraffiad y Mri Methuen o'r Rubd'iyat, wedi casglu ynghyd bob cyfeiriad at Omar a welwyd hyd yn hyn yn hen lyfrau Persia. Dyfynnaf yma'r dywediadau pwysicaf am dano.
Dywed Shahrazŵrî, tua chanol y drydedd ganrif ar ddeg, y gellir ei ystyried yn ddilynydd i Avicenna yng ngwahanol ganghennau athroniaeth ; ond mai dyn drwg ac anghymdeithasgar iawn ydoedd. Wedi darllen llyfr seithwaith fe'i hadroddai o'i gof. Yr oedd yn annhueddol i ysgrifennu nac i athrawiaethu; eto enwir dau o'i lyfrau. Yna disgrifir ei wybodaeth ddihafal o holl ddarlleniadau'r Korân. Rhoddir hanes am y diwinydd al-Ghazâlî yn dyfod i'w weled. Yr oedd y Swltân Malikshâh yn ymddwyn ato fel cyfaill, a Shamsw'l-Mwlk, brenin Bwkhârâ o 1067 hyd 1079, yn ei anrhydeddu'n fawr, a pheri iddo gydeistedd ag ef ar ei orseddfainc. Yna rhoddir hanes ei farwolaeth. Dywedir fod Omar ryw ddiwrnod yn pigo'i ddannedd a phin aur, ac yn astudio'r bennod ar uchanianaeth yn Llyfr Iachâd Avicenna. Pan gyrhaeddod yr adran am 'Yr Un a'r Lliaws,' fe roes y pin rhwng y ddwy ddalen, cyfododd, ac offrymodd ei weddiau, a gwnaeth ei orchmynion olaf. Ni fwytaodd ac nid yfodd ddim y dwthwn hwnnw, a phan offrymai ei weddi hwyrol olaf, fe ymgrymodd hyd lawr, gan ddywedyd, 'O Dduw yn wir mi a'th adnabûm hyd eithaf fy ngallu: maddeu i mi gan hynny. 'Yn wir fy adnabyddiaeth o honot yw fy [unig] ddyfodfa atat.' A chan ddywedyd hynny y bu farw; Duw a drugarhao wrtho. Fe ysgrifennodd benillion prydferth yn Arabeg a Pherseg. Y mae llyfr Shahrazŵrî i'w gael yn y ddwy iaith; yn y copïau Perseg rhoddir fel enghreifftiau o benillion Omar y ddau a rifir xci. a lxiii. yn y cyfieithiad Cymraeg uchod.
Mewn traethawd Sŵfiaidd ar gynnydd yr enaid, a ysgrifennwyd yn 1223, ceir beirniadaeth arno. Sonnir am y 'philosophyddion anffodus a'r materolwyr sydd wedi pensyfrdanu a myned ar gyfeiliorn gyda rhyw lenor sydd yn 'enwog yn eu plith am ei dalent, ei ddoethineb, ei graffder, a'i ddysgeidiaeth. A hwnnw ydyw Omar Khayyam. Er mwyn amgyffred ei ddigywilydd-dra eithaf a'i lygredigaeth