Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/37

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon
SEIRIOL A CHYBI

Seiriol Wyn a Chybi Felyn —
Mynych fyth y clywir sôn
Am ddau sant y ddwy orynys
Ar dueddau Môn.

Ynys Cybi 'm Môr Iwerddon,
Trosti hi'r â'r haul i lawr;
Ynys Seiriol yn y dwyrain
Tua thoriad gwawr.

Seiriol Wyn a Chybi Felyn —
Cyfarfyddynt, fel mae'r sôn,
Beunydd wrth ffynhonnau Clorach
Yng nghanolbarth Môn.

Seiriol, pan gychwynnai'r bore,
Cefnu wnâi ar haul y nef;
Wrth ddychwelyd cefnai hefyd
Ar ei belydr ef.

Haul y bore'n wyneb Cybi
A dywynnai'n danbaid iawn;
Yn ei wyneb y tywynnai
Eilwaith haul prynhawn.