Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Caniadau Owen Lewis Glan Cymerig.djvu/116

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cerubiaid, seraphiaid, ac engyl yn moli
Ar ganiad anfarwol ‘Udgorn y Jiwbili.

*********
Pan glywyd yr Udgorn trosglwyddwyd meddianau
Yn ol i'w gwir berchen yn swn ei hoff seiniau,
A mawr y llawenydd a welwyd yn mhob man
Pan ddeuai'r alltudion yn ol i wlad Canaan
I dderbyn eu heiddo yn rhad, yn "ddiddyled,"
Y tlawd a'r cyfoethog, yn awr o gaethiwed
Ymlament yn heini, a thaflwyd dialedd
O'r neilldu i drengu ar allor trugaredd,
A RHYDDID gyhoeddwyd trwy'r wlad i'r trigolion
Ar flwyddyn y Jiwbili llanwyd pob calon
A chariad brawdgarol, hyf othrwm ddiflanodd
Fel niwl i ddinodedd o'r golwg a suddodd
Yn swn ber.digedig yr Udgorn arianaidd
A'r flwyddyn a gedwid trwy'r holl wlad yn sanctaidd.

*********
A hithau'r ddaearen a huliodd ei byrddau
Yn llawn o fendithion myrdd, myrdd o berlysiau
A wenant ar fynwes toreithiog y dolydd
O ddwylaw trugarog y Nefol Waredydd.
A hwythau'r gwinllanoedd a blygant yn wylaidd
Tan bwysau eu ffrwythau-aroglant yn beraidd,
Tra'r awel yn llwythog, ymdaena ei mantell
Bersawrus, cyrhaedda ororau anghysbell.
Danghosodd y ddae'r trwy 'i ffrwythau aneiri.
Mai Duw oedd ei hunan yn Udgorn y Jiwbili.

Trwy niwloedd yr oesau ar gerbyd chwim amser,
Yr Udgorn adseinia ei adlais melusber,
Trwy enau'r proffwydi ei nodau a dreiddia
Fel trydan, nes adsain ar gopa Calfaria.
Gwefreiddir yr Udgorn yr holl greadigaeth
Gan felus gyhoeddi i fyd waredigaeth.
Pryd hyny yr engyl farchoga'r cymylau,
Gan seinio yr Udgorn mewn dwyfol gerbydau,
A'r ddaear a'r nefoedd pryd hyn a briodwyd,
Pan roddodd y Ceidwad tros bechod ei fywyd.