CWYN GOLL
Am y diweddar Mr. Thomas Evans (T. ap Ieuan), Trawsfynydd.
TRAWSFYNYDD anwylaf! pa beth yw y cri,
A glywaf yn adsain trwy'th fryniau hoff di?
Paham y mae tristwch yn llanw pob lle,
O'r dwyrain, gorllewin, y gogledd a'r de;
Paham yr wyt heddyw yn gwisgo dy ddu,—
Pa fodd y'th golledwyd fy anwyl wlad gu?
A alwyd dy feibion gan udgorn y gad,
I ryfel i ymladd dros ryddid eu gwlad?
Ai newyn ofnadwy sy'n dyfod gerllaw,
Gan daflu'th drigolion i ddychryn a braw!
Neu ydyw'r awyrgylch mor llwythog gan haint,
Nas gall y darfelydd ddesgrifio ei faint?
Na, na! fe adweiniodd y dewrion y cledd,
A newyn sy'n gorwedd yn fud yn ei fedd!
Mae natur yn gwenu,—yr awel mor glir,—
Chwareua yn nwyfus hyd wyneb y tir.
Nid rhyfel a newyn na haint sydd yn awr,
Yn esgor ar drallod pruddglwyfus y llawr;
Er hyny 'th drigolion sy'n athrist eu gwedd
Am fod T. ap Ieuan yn awr yn ei fedd!
Teyrnasai cyffro pan y clywyd hyn,
A phryder gerfiwyd ar bob grudd trwy'r wlad.
Nid ydyw iaith yn ddigon cref i ddweyd
Yn llawn pa faint a fu y golled hon.
Ond tystio wna yr ocheneidiau prudd
Esgynant fry mai anwyl ydoedd ef
Gan ei gyfeillion. Heddyw gwelir gwlad
Yn wylo dagrau hiraeth ar ei ol :
Mae'r dagrau welir ar y gruddiau llwyd,
Yn dystion gwir o'r cydymdeimlad sydd
A'r teulu yn eu trallod ar ol un
Anwylid ganddynt fel eu hanwyl dad.
Desgrifio colli tad, rhy anhawdd yw:
Oud teimlad ddywed i ni beth yw hyn.