Ei golli ef, y cain awenydd hoff;
Ow eiriau trist! 'Ap Ieuan yn ei fedd!'
Trawsfynydd hen, rhyw ddiwrnod tywyll du,
I ti oedd hwnw pan y collaist ef,
Pa ryfedd fod y Llan mewn galar dwys.
A'r Ysgol Sul yn wylo ar ei ol.
Ei lais ni chlywir mwy,—mor chwith yw gwel'd
Ei sedd yn wâg yn Eglwys hen y Plwyf.
Nid oedd un man yn nghreadigaeth Ior
Mor gysegredig yn ei olwg ef
A'r fangre dawel hon lle bu trwy 'i oes
Yn ffyddlon gydag achos Duw a'i waith.
Mor addfwyn y siaradai ar ei rhan,
Ac iddi bu yn amddiffynwr dewr,
Ac fel y dderwen gref, ni phlygai ef,—
Os collwyd gem o goron brydferth hon,
Mor felus ini ydyw cofio hyn,
Fod hwnw'n berl yn nghoron Iesu'n awr.
Os gofyn rhywun beth a wnaeth
I hawlio coffadwriaeth;
Y beirdd a ddywed, 'Rhoddodd faeth
I fyd mewn pur farddoniaeth;'
A melus ydyw cofio am
Ei odlau swynol weithian;
Ceridwen, collaist fab dinam,
Pan gollaist T. ap Ieuan.
Os gofyn rhywun beth a wnaeth
I haeddu parch mor drylw'r,
Fe dd'wed chwarelwyr er eu haeth
Collasom ein cynghorwr;
Ei ail am ddadleu ar ein rhan
Ni welir mwy yn unman,
Ond gorwedd mae ef ger y Llan,
Yr anwyl T. ap Ieuan.
Os gofyn rhywun beth a wnaeth?
Ateba y plwyfolion