Collasom un o uchel chwaeth,—
Un doeth ei ymadroddion;
Pan ddelai rhyw awelon croes
I chwythu ar yr egwan,
Esmwythid pob rhyw gur a loes,
Os gallai T. ap Ieuan.
Os gofyn rhywun beth a wnaeth
I anfarwoli 'i enw,
Yr ateb ddaw fel hedol saeth
I ddweyd o blith y meirw,
Mai enwog fu am nyddu pill,
A'i gerfio ar y lech lan;
Ac o mor swynol yw pob sill
O eiddo T. ap Ieuan.
Os gofyn rhywun beth a wnaeth
I fod yn ddyn mor hynod,
Cewch ateb yn y rhain a ddaeth
I'w ddilyn at y beddrod.
Yr Eglwys fel rhyw weddw brudd,
Sisialai wrthi 'i hunan,
'Fy mhlentyn hoff, pwy i ni fydd
Mor bur a T. ap Ieuan?
Os gofyn rhywun beth a wnaeth
I beri y fath ddagrau?
Yr ateb yw mai angau ddaeth
I rwygo ein calonau;
Ond, aeth a'n cyfaill hoff i'w le,
At Iesu Grist ei hunan;
Trwy'n colled ni fe gadd y ne',
Yr anwyl T. ap Ieuan.
Nid marw wnaeth y cyfaill, huno mae
Mewn tawel fan, o gyraedd poen a gwae
Y byd. Mae ef yn gwybod erbyn hyn,
Pa beth yw newid byd a chroesi'r glyn
I'r ochr draw i'r llen, lle nad oes cur
Na thrallod i gymylu'r gwynfyd pur.