Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Caniadau Owen Lewis Glan Cymerig.djvu/42

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

CASTELL CARN DOCHAN.

AR noswaith loergan ddiwedd haf,
Er's llawer o flynyddau,
Cychwynai mintai fechan ddewr
Yn llwythog dan eu harfau:
Y lleuad dlos yn gwenu'n llon,
A'r ser yn dawnsio weithian,
O falchder wrth oleuo'r rhain
O Gastell hoff Carn Dochan.

Ceid golwg benderfynol ar
Y cewri cedyrn yma;
A phan yn cofio am y brad,
Eu gwaed Cymreig a ferwa;
A gwenau'r capten ieuangc llon,
Fel mam ar wên ei baban;
Wrth arwain meib hen Walia wyllt
O gastell hoff Carn Dochan.

Ymbletha'i gariad am ei wyr
Fel eiddew am y dderwen,
A llawer gwaith yn ymladd bu'nt
Tan faner y Geninen;
Ond er mor fawr—'roedd cariad mwy
Cydrhyngddo ef a'i rian,
Yr hon edrychai ar ei ol
O gastell hoff Carn Dochan.

Erfynia'r fun trwy weddi daer
Ar Dduw, o'i fawr drugaredd,
Ofalu am y fintai hon
A'i harwain i anrhydedd;
Atebodd Duw ei gweddi daer,
A gwyliodd y gyflafan:
O'u rhengoedd hwy ni chollwyd un,
O gastell hoff Carn Dochan.