Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Caniadau Owen Lewis Glan Cymerig.djvu/43

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ar noswaith loergan ddiwedd haf,
Er's llawer o flynyddau,
Dychwelai'r fintai fechan hon,
A'r rhuddwaed ar eu harfau;
Y lleuad dlos yn gwenu'n llon,
A'r ser yn dawnsio weithian,
O falchder wrth oleuo'r dewr
Yn ol i Gastell Dochan.


Y DWYFOL WAREDWR.

(Miwsic gan R. O. Jones, Bala,)

DWYFOL Waredwr o'i fodd
A roddodd ei fywyd i'r byd,
Ei gariad yn llymaid a dôdd,
Cyn galw y dyfroedd ynghyd,
Cyn llunio'r planedau uwchben,
Cyn llunio y ddaear â dyn,
Cyn gosod yr haul yn y nen,
Fe roddodd yr Iesu ei Hun.

Y dwyfol Waredwr cyn bod
O bechod yn aberth a gaed,
Maddeuant trwy'r oesau sy'n do'd
Trwy rinwedd anfarwol ei waed;
Yr unig-anedig Fab Duw
Yn agor y nefoedd i ddyn,
Trwy ddyfod i'r ddaear i fyw
Fe roddodd yr Iesu ei Hun.

Y dwyfol Waredwr o'r nef
Fu'n dioddef ar groesbren cyn hyn;
Gorphenwyd,' 'gorphenwyd,' medd ef
Dan hoelion ar Galfari fryn ;
Pechodau holl gyrau y byd
Fu'n pwyso ar Dduw pan yn ddyn,
Ond talwyd y ddyled i gyd
Pan roddodd yr Iesu ei hun.