Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Caniadau Owen Lewis Glan Cymerig.djvu/53

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PRYDDEST—
AR DDYFFRYN EDEYRNION.

EDEYRNION henafol, cartrefle y cedyrn,
Fu'n ymladd tros ryddid wyllt Walia;
Edeyrnion urddasol, bu'th blant yn arfogi,
Ymgyrchent dan faner Corwena;
Bu Glyndwr yn crwydro dy fynwes ireiddlawn,
Tywysog anfarwol y Cymry:
Ymladdodd yn erbyn y gelyn anghyfiawn,
Y rhai fu trwy drais yn gormesi,
Fe weiniodd ei gleddyf yn ngwaed eu calonau,
Iawnderau y Cymry a gadwodd;
Edeyrnion anwylgu, bu rhuddwaed yr arfau
Yn lliwio dy fronau a'th gymo'dd.

Paradwys y Cymro yw'th feusydd toreithiog-
Cain ddarlun o Eden urddasol;
Mae'r blodau amryliw yn wea odidog,
Yn berffaith trwy drefn yr anfeidrol,
Yn hulio dy ddolydd mewn dullwedd cywreiniol
Fe welir ol llaw y Creawdwr,
A myrdd o lygadon yn gwenu mor siriol
O garped melfedaidd 'r amaethwr:
Ha! brydferth olygfa, ni welir yn unman
Dy harddach, Edeyrnion hoff lanerch,
Wyt deilwng o barlwr i engyl y wiwlan,—
Nid ydwyf yn deilwng i'th anerch.
Y nentydd tryloew o fynwes hen Ferwyn
Ymdreigla eu dyfroedd grisialaidd,
Murmurant eu ffarwel, cusanant y clogwyn,
Ymdroellant mal llinyn arianaidd :
Ymlafnant drwy'r dyffryn i uno a'r Ddyfrdwy,
Brenhines afonydd teg Feirion,
Mae ynddi ryw urddas i'w weled yn fwy-fwy,
Wrth faethu dy lanau Edeyrnion.


Ar fin y Ddyfrdwy hen,
Lle bu'r derwyddon gynt